Our Town

CYM / ENG

Welsh National Theatre a Rose Theatre yn cyflwyno

OUR TOWN

Gan Thornton Wilder

Cyfarwyddwyd gan Francesca Goodridge

Gyda Michael Sheen yn serennu fel Rheolwr Llwyfan

Cydymaith Creadigol, Russell T Davies

Cynhyrchydd Gweithredol, Pádraig Cusack

“Does anyone ever realise life while they live it… every, every minute?”

Tref fach dawel yw Grover’s Corners, yn llawn pobl gyffredin, yn byw eu bywydau beunyddiol. Maen nhw’n gweithio, yn chwerthin, yn canu, yn cwympo mewn cariad, yn magu eu plant ac yn tyfu’n hen.

Ond yn yr eiliadau yna o fywyd cyffredin bob dydd, mae gwirioneddau sy’n cyffwrdd â ni i gyd. A galw angerddol i werthfawrogi pob eiliad, yr eiliad hon, pan allwn ni.

Our Town yw campwaith y dramodydd o America, Thornton Wilder, ac yn y cynhyrchiad newydd hwn ceir y stori o safbwynt Cymreig, gan ddod â bywyd a bywiogrwydd o’r newydd sy’n taro tant â chynulleidfaoedd modern.

Pan greodd Dylan Thomas ei fersiwn ei hun o fywyd pentrefol yn Dan y Wenallt, dywedir ei fod yn gyfarwydd â Wilder a’r ddrama hon. Mae’r cysylltiad cyffredin hwnnw’n golygu mai Our Town yw’r cynhyrchiad perffaith i fod yn gynhyrchiad cyntaf i’r WNT, gan ddangos doniau gorau Cymru mewn drama sy’n taro tant oesol a byd-eang.

Meddai Michael Sheen: “Mae Our Town yn ddrama am fywyd, cariad a chymuned. Dyna sy’n bwysig i ni yng Nghymru; dyna sy’n bwysig i fi. Mae’n ddrama sy’n ein cymell ni i ddathlu’r beunyddiol, i werthfawrogi’r rhai sy’n annwyl i ni. Alla i ddim meddwl am ddrama well i groesawu cynulleidfaoedd ledled Cymru ac yn Llundain i’r Welsh National Theatre, ochr yn ochr â’n partneriaid cyd-gynhyrchu The Rose Theatre.”

Dyddiadau a thocynnau

Venue Cymru

Llandudno

Dydd Mawrth 3 Chwefror 2026 - dydd Sadwrn 7 Chwefror 2026

Tocynnau ar werth ym mis Ebrill 2025.

Theatr y Grand Abertawe

Abertawe

Dydd Gwener 16 Ionawr 2026 - dydd Sadwrn 31 Ionawr 2026

Tocynnau ar werth ym mis Ebrill 2025.

Theatr Clwyd

yr Wyddgrug

Dydd Mercher 11 Chwefror 2026 - dydd Sadwrn 21 Chwefror 2026

Tocynnau ar werth ym mis Ebrill 2025.

Rose Theatre

Kingston-upon-Thames, Llundain, Lloegr

dydd Iau 26 Chwefror 2026 - 28 Mawrth 2026

Prynwch eich tocynnau yma.

I gael rhagor o wybodaeth am Thornton Wilder, ewch i www.thorntonwilder.com