Owain & Henry

CYM / ENG

Welsh National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno

OWAIN & HENRY

Drama newydd gan Gary Owen

Gyda Michael Sheen yn serennu fel Owain Glyndŵr

Cynhyrchydd Gweithredol, Pádraig Cusack

Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, Tachwedd 2026.

Bydd tocynnau’n mynd ar werth ar 4 Awst 2025 i aelodau Canolfan Mileniwm Cymru, ac ar 8 Awst 2025 i’r cyhoedd.

Y flwyddyn yw 1400. Mae arglwydd gorchfygedig ar damaid o dir yng ngogledd Cymru yn cael ei yrru ar herw gan y Brenin Harri IV. Ond yn lle ildio i’w dynged, mae Owain Glyndŵr yn codi mewn gwrthryfel.

Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae Owain yn arweinydd ar gynghrair fawreddog o filwyr o Gymru, Lloegr a Ffrainc. Mae’n goresgyn Lloegr ac yn wynebu byddin Harri IV ger Caerwrangon. Y gwrthryfelwyr sydd â’r fyddin fwyaf, a’r tir uchaf.

Os bydd y gwrthryfelwyr yn ennill, bydd y canlyniad yn golygu mwy na diwedd teyrnasiad Harri IV.

Bydd Cymru’n rhydd – a bydd hi ar ben ar Loegr.

Drama newydd epig gan y dramodydd clodwiw Gary Owen (Iphigenia in Splott) yw Owain & Henry, gyda’i mesur di-odl yn rhoi bywyd newydd i wrthryfel Owain Glyndŵr yn erbyn coron Lloegr yn y bymthegfed ganrif.

Yn gyd-gynhyrchiad rhwng y Welsh National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru, bydd Owain & Henry yn cael ei llwyfannu yn Theatr Donald Gordon – y llwyfan mwyaf ond un yn Ewrop – ym mis Tachwedd 2026. Bydd tocynnau’n mynd ar werth ar 4 Awst 2025 i aelodau Canolfan Mileniwm Cymru, ac ar 8 Awst 2025 i’r cyhoedd.

Meddai Michael Sheen: Owain & Henry yw un o straeon tarddiad ein cenedl, mor berthnasol ym myd cymhleth yr oes sydd ohoni ag yr oedd pan ddatganodd Owain Glyndŵr Gymru yn genedl annibynnol chwe chan mlynedd yn ôl. Mae drama Gary Owen yn un o’r dramâu Cymreig mwyaf uchelgeisiol i fi eu darllen; a dyma’r ddrama fwyaf o ran maint a beiddgarwch yng ngyrfa Gary. Dyna’r meincnod a’r uchelgais greadigol rydyn ni am ei gosod gyda’r Welsh National Theatre.

“Bydd chwarae’r tywysog eiconig ar un o lwyfannau mwyaf Ewrop, yn ein prifddinas, yn eiliad ddiffiniol i ni fel pobl ac fel diwylliant rwy’n gobeithio. Dyma hanfod y Welsh National Theatre.”