CYM / ENG

Uchelgais y Welsh Net yw adeiladu rhwydwaith o sgowtiaid doniau ledled Cymru. Gan fwrw golwg ledled Cymru, bydd y Sgowtiaid Diwylliant yn gwylio theatr, perfformiadau a sioeau ieuenctid, amatur a phroffesiynol, gyda’r nod o ganfod a datblygu doniau.

Lle roedd y Welsh Not yn rhwystro mynegiant Cymreig, uchelgais Welsh Net yw ei hyrwyddo. Nod Welsh Net yw creu llwybrau sydd wedi diflannu, neu nad oedd yn bodoli, i helpu gwneuthurwyr theatr dawnus ledled Cymru i oresgyn y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu yn y diwydiant.

Llun: Michael Sheen gyda Viv Buckley, Sgowt Diwylliant.

Meddai Michael Sheen: “Wrth dyfu i fyny ym Mhort Talbot, a chwarae pêl-droed ar gae drws nesaf i’r A48, ro’n i bob amser yn gwybod bod cyfle y byddai ’na ‘sgowt’ yn gwylio. Rhywun o’r ardal leol oedd yn cael y dasg gan glybiau proffesiynol i gadw llygad am ddoniau newydd. Roedd hynny’n golygu, waeth pa mor anodd oedd y daith yn y pen draw, roedd yna bosibilrwydd o lwybr i’r brig. Dw i eisiau i bob person ifanc, amatur a phroffesiynol sy’n perfformio neu’n gweithio tu ôl i’r llen yng Nghymru, gael yr un llwybr posib yna at frig y daith greadigol.”