ENG // CYM

Welsh National Theatre set to take Wales to the world as Michael Sheen announced as Artistic Director for new institution

Today marks the launch of the Welsh National Theatre, as actor Michael Sheen shares a vision to create world class work from Wales and take it to the world. 

The Welsh National Theatre is a new organisation, separate but complementary to Theatr Cymru, which was established in 2003 as the Welsh language national company.

Michael Sheen said: “This is a new dawn for theatre in Wales.  We’ll be a home for our greatest talent, bringing them together to create ambitious theatre which makes our national story come alive.  That’s what national theatres should do.

“Wales has such a rich storytelling history but our stories are underexplored in the English language, both at home and internationally.  I’ve spent much of the past year on stage playing Aneurin Bevan in Tim Price’s Nye to packed houses, both in and out of Wales.  Audiences have a huge appetite for our stories if we give them the chance to experience them.

 “Our plays and performances will tell the stories of Wales' past, present and future, as well as classics seen through a Welsh lens.  They’ll be produced on the grandest stages around the world, by world-class Welsh talents.  We want truly ambitious writing from Welsh playwrights for the best actors in Wales, to be the pinnacle of our creative talent, raising the bar for excellence in entertainment.

“We want to help create a world where the stories of Wales help us make sense of tomorrow. Where the people of Wales understand their power to change society thanks to the spark of a performance on our stage. Where Wales is respected as a nation with a powerful voice and a story to tell.”

 Announcements on the new theatre’s first production will follow in due course.

For further information, contact Daniel Tyte (daniel.tyte@workingword.co.uk) at Working Word on +44 29 2045 5182.

Mae’r Welsh National Theatre ar fin mynd â Chymru i'r byd wrth gyhoeddi Michael Sheen fel Cyfarwyddwr Artistig sefydliad newydd.

Lansiwyd Welsh National Theatre heddiw, cwmni theatr i Gymru, wrth i’r actor Michael Sheen rannu gweledigaeth i greu gwaith o safon fyd-eang o Gymru a’i gludo i’r byd. 

Mae'r Welsh National Theatre yn sefydliad genedlaethol newydd a fydd yn cynhyrchu gwaith theatr trwy gyfrwng y Saesneg. Mae'n sefydliad ar wahân i Theatr Cymru, y cwmni theatr cenedlaethol iaith Gymraeg, a sefydlwyd yn 2003.

Dywedodd Michael Sheen: “Dyma wawr newydd i theatr yng Nghymru. Byddwn yn gartref i’n talent mwyaf, gan ddod â nhw at eu gilydd i greu theatr uchelgeisiol sy’n gwneud i’n stori genedlaethol ddod yn fyw. Dyna beth ddylai theatrau cenedlaethol eu wneud.

“Mae gan Gymru hanes adrodd straeon mor gyfoethog ond nid yw ein straeon yn cael eu harchwilio’n ddigonol yn yr iaith Saesneg, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Rwyf wedi treulio llawer o’r flwyddyn ddiwethaf ar lwyfan yn chwarae rhan Aneurin Bevan yn Nye, gan Tim Price, mewn theatrau oedd dan eu sang, yng Nghymru a thu hwnt. Mae gan gynulleidfaoedd awydd mawr am ein straeon os ydym yn rhoi cyfle iddynt eu profi.

“Bydd ein dramâu a’n perfformiadau yn adrodd hanesion gorffennol, presennol a dyfodol Cymru, yn ogystal â chlasuron a welir trwy lens Gymreig. Cânt eu cynhyrchu ar lwyfannau mawreddog y byd, gan dalentau Cymreig o safon fyd-eang. Rydym am wthio ysgrifennu gwirioneddol uchelgeisiol gan ddramodwyr Cymreig ar gyfer ein actorion gorau, fod yn binacl i’n dawn creadigol, gan godi’r bar am ragoriaeth ym myd adloniant.

“Rydym eisiau creu byd lle mae straeon Cymru yn ein helpu i wneud synnwyr o yfory. Lle mae pobl Cymru yn deall eu grym i newid cymdeithas diolch i sbarc perfformiad ar ein llwyfan. Lle mae Cymru’n cael ei pharchu fel cenedl sydd â llais pwerus a stori i’w hadrodd.”

Bydd cyhoeddiadau am gynhyrchiad cyntaf y theatr newydd yn dilyn maes o law.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Daniel Tyte (daniel.tyte@workingword.co.uk) yn Working Word ar +44 29 2045 5182.